AMDANOM NI
Mae Inspire Events yn cael ei redeg a’i reoli gan Inspire Fitness Merthyr. Yn ychwanegol at ddigwyddiadau rydym ni hefyd yn cynnig hyfforddi un i un ar gyfer rhedeg, triathlon a phwergodi. Gallwn hefyd ddarparu cynlluniau bwyd a hyfforddiant i’ch helpu chi gael y canlyniadau rydych yn eu haeddu.
CWRDD Ȃ’R TÎM
Sarah Draper
Farrah Hill
Ann Evans
AM FERTHYR TUDFUL
Gwybodaeth gefndir am dref hanesyddol Merthyr Tudful
Gwybodaeth gefndir
Mae’n hawdd cyrraedd Merthyr Tudful oherwydd y rhwydwaith ffordd ardderchog o’i chwmpas. Saif rhwng Prifddinas Cymru - Caerdydd a Bannau Brycheiniog. Mae gan Ferthyr Tudful boblogaeth o ryw 64 mil. Ar un adeg, Merthyr Tudful oedd y dref fwyaf yng Nghymru, heddiw dyma’r bedwaredd ardal drefol fwyaf yn yr ardal. Ar adegau, cyfeirir at Ferthyr Tudful fel “Merthyr” yn unig. Mewn Cymraeg modern mae’r ystyr ‘merthyr’ yn parhau.
Cafodd Traphont Cefn Coed ei hadeiladu i gludo Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr, ac mae ei phrydferthwch yn parhau hyd heddiw. Roedd Merthyr yn safle delfrydol ar gyfer y Gwaith Haearn, gan ei fod yn agos at gronfeydd haearn, mwyn, glo, calch, coed a dŵr ac ers Oes y Tuduriaid bu gwaith haearn a mwyngloddio glo yn digwydd yno ar raddfa fechan.
Ar ôl y Rhyfel Byd 1af, dechreuodd y diwydiannau dur a glo lleol ddirywio, gan effeithio’n drwm ar Ferthyr. Caeodd y gweithfeydd haearn, ac erbyn 1932, roedd mwy na 80% o ddynion Dowlais yn ddi-waith, ymfudodd pobl o Ferthyr yn y 1920au a’r 1930au. Cafwyd peth lleddfu ar y sefyllfa yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yna ar ôl y rhyfel, sefydlodd nifer o gwmnïau mawr ym Merthyr.
Ym mis Hydref 1948, agorodd Cwmni Hoover, dan berchnogaeth Americanaidd, ym Mhentrebach, ac mae’n parhau i sefyll yno hyd heddiw. Aeth Hoover yn ei flaen i gyflogi bron i 5000 o bobl o’r ardal leol, gan wneud Hoover y cyflogwr mwyaf yn y fwrdeistref. Tyfodd cyflogaeth i fenywod yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gyda busnesau cynhyrchu pellach a busnesau manwerthu yn seiliedig ar y prynwr. Sefydlwyd Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful ym 1923.
Cyfartha, oedd cyn gartref y Meistr Haearn, William Crawshay II, ac fe’i adeiladwyd ar ffurf castell ffug goludog. Erbyn heddiw mae’n amgueddfa ac mae’r ‘castell’ yn gartref i nifer o baentiadau o’r dref, arddangosfa Hoover, casgliad mawr o arteffactau o gyfnod Chwildro Diwydiannol y dref, ynghyd â chasgliad nodedig o arteffactau beddrod Eifftaidd.
Saif ‘Merthyr’ ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, cartref y mynydd enwog ‘Pen Y Fan’, a Rheilffordd Fynydd Aberhonddu.
Llwyddiant Chwaraeon, Pobl Enwog a Datblygiadau Cyfredol
Mae Merthyr wedi bod yn boblogaidd oddi fewn i’r proffesiwn paffio a cheir cerflun o Eddie Thomas yng Ngerddi Bethesda. Roedd yna rai eraill a oedd yn disgleirio hefyd ac a ddilynodd ôl ei droed i’r cylch paffio a’r byd paffio - Johnny Owen a Howard Winstone. Ymhlith eraill a anwyd ym Merthyr a llwyddo mewn chwaraeon mae’r pêl-droedwyr– Gareth Abraham, Gordon Davies, Kevin Gall, Declan John, Brian Law, Mark Pembridge.
Rydym yn falch fod gwreiddiau dwfn gan Laura Ashley a Julien Macdonald yn y dref hefyd.
Mae’r dref hefyd yn falch o’r holl bobl eraill o’r maes actio a chwaraeon sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gynrychioli Merthyr a Chymru ar raddfa fwy o faint.
Mae Merthyr yn gartref i Bike Park Wales a chanolfan awyr agored Parkwood Outdoors Dolygaer. Mae’r ddau le’n cynnig cyfleusterau hamdden i’r teulu i gyd, ynghyd ag ardaloedd caffi i fwynhau pryd da o fwyd cartref ar ôl hynny.
Dros y blynyddoedd diweddar rydym wedi gweld buddsoddi gwych yn yr ardal gyda chanolfannau siopa, manwerthwyr annibynnol newydd a mannau gwerthu bwyd yn dewis Merthyr fel cartref i’w busnesau, gan roi cyfleoedd cyflogaeth i bobl Merthyr a chadw gwariant yn lleol.